Galw am drydar Cymraeg pwrpasol gan Angharad Mair
Mae Hosni Mubarak wedi mynd, diolch i’r drefn newydd o gyfathrebu, o gynllwynio a threfnu drwy Twitter a Facebook, ac yn gadael neges glir i unbenaethau eraill: fod pobol bellach mewn cysylltiad cyson a bod hynny yn rhoi grym a phwer iddyn nhw.
Dyna un gred beth bynnag, y bydd mwy nag un chwyldro eto wedi eu tanio gan Twitter. Ond mae sawl un arall yn dadlau’n wahanol gan gynnwys colofnydd gwleidyddol a materion tramor y Washington Post Anne Applebaum.
Mae hi’n mynnu fod penderfyniad llywodraeth yr Aifft i atal unrhyw ddefnydd o’r rhyngrwyd wedi cael prin ddim effaith ar y protestwyr. Er yr holl ddwli am Twitter a’r cyfryngau newydd, meddai, roedd y gwrthryfel yn Cairo yn ymddangos yn hen ffasiwn iawn, nid annhebyg i chwyldro yn y 19g – roedd pobol yn gweld pobol eraill yn protestio yn y strydoedd ac yn penderfynu ymuno.
Mae eraill ym mynd ymhellach – gan honni mai un o gamgymeriadau tactegol mwyaf Mubarak oedd cau’r rhyngrwyd. Roedd atal pobol rhag cyfathrebu a chynllwynio ar Twitter wedi gorfodi mwy o bobol i godi oddi ar eu penolau i ymuno yn y protestio go iawn.
Gweithredu torfol arweiniodd at ddisodli Mubarak, nld newidiadau technolegol. Ac mae gwers fawr i ni gyd yn hynny.
Wrth gwrs bod lle’r Gymraeg ar y rhyngrwyd yn bwysig. Wrth gwrs bod rhaid i’r iaith fod yn endid byw a hyderus ar wefannau cymdeithasol. Ffolineb llwyr fyddai dadlau yn erbyn hynny. Ond, mae yna beryglon hefyd os cewch eich suo i feddwl y bydd Twitter yn gallu achub yr iaith a’r bywyd Cymraeg.
Ar ôl darllen erthygl Cris Dafis wythnos diwethaf gyda’i bennawd gogleisiol ‘Y Gymraeg ar y We mor bwysig â’r Beibl’ – dyfyniad oddi wrth un trydarwr o gynhadledd Haciaith – fe gymrais gyngor Cris ac ymweld â gwefan cy.umap.eu i weld drosodd fy hun holl fwrlwm a brwdfrydedd y We yn Gymraeg.
Mae Umap yn sicr yn wych wrth gasglu’r cynnwys Cymraeg ar Twitter a’u didoli i bynciau llosg y dydd a’r dolenni mwyaf poblogaidd. Ond welais i ddim byd i f’ysbrydoli nac ychwaith i wneud i mi gredu bod ryw dân newydd ym mol y Cymry, nawr ei bod hi mor hawdd i rannu gwybodaeth a syniadau. Roedd y cwbwl mor – wel – ddiddim, difflach a di-nod.
Un arall sydd wedi amlinellau gwendidau Twitter yw Malcolm Gladwell awdur The Tipping Point. Mewn erthygl yn y New Yorker yn ddiweddar daeth i’r casgllad nad oedd gwefannau rhyngweithio cymdeithasol yn gallu hybu’r cyd-ymrwymiad angerddol sy’n creu’r ymroddiad sy’n arwain at newid cymdeithasol. Mae natur y cyfrwng yn golygu bod unrhyw brotest ar-lein yn un heb fawr o risg ac o’r herwydd heb fawr o effaith.
Felly beth am sialens drydarwyr Cymraeg? Mae angen cynifer o brotestwyr a phosib yn Heol y Priordy Caerfyrddin am 10 o’r gloch fore Sadwrn yn y frwydr i achub S4C, ac os yw’r sibrydion yn wir am ddyfodol BBC Alba – a hynny’n fuan – mae’ch angen chi yno.
Trydar at bwrpas – nid dim ond i ddangos bodolaeth.
A gweithredu torfol cofiwch yw’r unig ffordd i orfodi newid.
