Felly beth am sialens drydarwyr Cymraeg? Mae angen cynifer o brotestwyr a phosib yn Heol y Priordy Caerfyrddin am 10 o’r gloch fore Sadwrn yn y frwydr i achub S4C, ac os yw’r sibrydion yn wir am ddyfodol BBC Alba – a hynny’n fuan – mae’ch angen chi yno.
Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Ond yr hyn sy’n ddiddorol i fi yw nad oes neb wedi gadael sylw dan holl bwynt yr erthygl, sef rhoi sylw i brotest Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerfyrddin ddoe, ac i annog y rhai sy’n trydar i ledaenu’r neges er mwyn cael cynifer o bobl a phosib yno. Ond wnaeth hynny ddim digwydd ar unryw fath o raddfa eang, os o gwbl. Yn sicr mae twitter a gwefannau fel facebook yn werthfawr i gysylltu pobl a’i gilydd a’u hysbrydoli i weithredu a phrotestio. Pam felly, a ninnau yn beryglus o agos at golli un o’r sefydliadau pwysicaf yn yr iaith Gymraeg – os nad y pwysicaf – nad yw hynny’n digwydd yng Nghymru?
Mae Twitter yn lledaenu’r wybodaeth (bod rali ‘mlaen), wedyn mae fyny i’r rhai glywodd amdano droi fyny. Sgan Twitter ddim pwer dros difaterwch Cymry Cymraeg.
Angharad, paid â thybio unrhyw beth am y diffyg sylwadau dan y paragraff yma. Dechreuais i’r system fach yma i drafod pob pwynt yn dy erthygl – Yr Aifft, Twitter, Umap, Gladwell ayyb. Mae hwn yn gyfryngau pobol, dydyn ni ddim yn siarad gydag un llais. Ond mae llawer o bobol yma yn gefnogol iawn o’r ymgyrch S4C yn llawer o ffyrdd gwahanol.
Felly beth am sialens drydarwyr Cymraeg?
Mae mwy nag un sialens yn bodoli yn 2011 am drydarwyr Cymraeg. Mae’r mudiad poblogaidd yn alw am “Na i doriadau, ie i S4C newydd”. Mae’r ddwy elfen yn sialens. Ym mhersonol dw i eisiau archwilio’r defnydd o Gymraeg arlein. Mis yma dw i’n archwilio sylwadau a thrafodaeth arlein trwy newid dy erthygl i “tweets”. Gobeithio un o’r pethau rydyn ni’n gallu gwneud yw bwydo’r drafodaeth am S4C newydd ac yn gyffredinnol, Cymraeg arlein hefyd.
O edrych nôl ar y trydar am S4C http://cy.umap.eu/s4c/#more fe weli bod llawer iawn yn trafod a rhannu gwybodaeth am weithgareddau Cymdeithas yr Iaith am S4C gan gynnwys cael pobol i fynychu cyfarfodydd lleol a raliau. Maen nhw hefyd yn rhannu eu meddyliau pan mae’n nhw’n cytuno efo ti (ar Pawb a’i Farn) a’n cadw’r drafodaeth yn y llygad cyhoeddus.
Mae Twitter yn un rhan o jigso cyfathrebu cymhleth. Mae ebost a Facebook yn ran arall. Mae tecstio a sgyrsiau tafarn yn un arall. All Twitter na Facebook ddim gweithio fel panacea i gyfathrebu ar raddfa eang nac i ysgogi pawb i fecso am ddyfodol S4C, ond dydi hynny ddim yn golygu nad oes gwerth iddynt mewn cynyddu ymwybyddiaeth a gweithio fel arf i wneud y ddau beth uchod.
Mae 2,000 o bobol yn darllen Golwg. Does dim modd i dy golofn gael ei rhannu ymhellach na hynny ar hyn o bryd ond o law i law. Mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Facebook a Twitter (mae 2,100 yn grwp Cymdeithas yr Iaith yn unig). Byddwn yn awgrymu i ti ofyn i dy gyhoeddwr i roi dy erthyglau ar-lein os ti eisiau cynyddu impact dy neges ymhellach, neu falle ddechrau blog a’u rhoi nhw yno wythnos ar ol cyhoeddi. Byddai gan bobol wedyn ffordd o rannu dy syniadau di yn hawdd, a thithau i’w hateb yn ôl os oes angen.
“Cytuno gyda Angharad Mair” medde nhw
Byddwn yn awgrymu i ti ofyn i dy gyhoeddwr i roi dy erthyglau ar-lein os ti eisiau cynyddu impact dy neges ymhellach, neu falle ddechrau blog a’u rhoi nhw yno wythnos ar ol cyhoeddi. Byddai gan bobol wedyn ffordd o rannu dy syniadau di yn hawdd, a thithau i’w hateb yn ôl os oes angen.
Cytuno, byddai hyn yn syniad da ofnadwy ar gyfer y colofnau, ac efallai’n fodd o ddenu darllenwyr newydd i Golwg, pwy a wyr? Faswn i heb weld yr erthygl yma, oni bai ei bod wedi ei rhoi ar-lein a bod pobl wedi cyfeirio ati drwy Twitter