Neidio i gynnwys | Neidio i sylwadau

Darn 06

Wrth gwrs bod lle’r Gymraeg ar y rhyngrwyd yn bwysig. Wrth gwrs bod rhaid i’r iaith fod yn endid byw a hyderus ar wefannau cymdeithasol. Ffolineb llwyr fyddai dadlau yn erbyn hynny. Ond, mae yna beryglon hefyd os cewch eich suo i feddwl y bydd Twitter yn gallu achub yr iaith a’r bywyd Cymraeg.



RSS feed of comments 4 Responses to “”

  1. Dafydd Tomos yn dweud:

    Mae yna rhyw fath o bwynt yma sy’n ceisio ei orau i ddod allan. Mae hyn yn amlwg gyda pethau fel ‘ymgyrch’ i gael Twitter yn Gymraeg sy’n cael ei sbamio byth a hefyd gan Gareth Stwnsh.

    Neu y twibbons di-bwynt sy’n cael ei gwthio ar bawb.

    Ond mae’r math yma o beth yn digwydd ymhob cyfrwng – ebost, fforymau, blogiau a gwefannau cymdeithasol modern.

    Mae e hefyd yn digwydd yn y byd teledu Cymraeg. Mae rhaglen saesneg yn gwneud eitem ar ryw ddigwyddiad, ffasiwn neu ffenomenon newydd ac yna mae rhaglen Gymraeg yn neidio ar yr un peth, yn chwilio am unrhyw fath o gysylltiad Cymreig.

    Dwi ddim yn hoffi Skdadl gyda llaw. ydi e ar gyfer pobl thic sydd ddim yn gallu ystyried a thrafod erthygl yn ei gyfanrwydd (fel sydd angen gwneud?) Does gen i ddim amser na diddordeb mewn ateb 12 pwynt mewn negeseuon ar wahan.

  2. Rhys yn dweud:

    Dwi ddim yn hoffi Skdadl gyda llaw. ydi e ar gyfer pobl thic sydd ddim yn gallu ystyried a thrafod erthygl yn ei gyfanrwydd (fel sydd angen gwneud?) Does gen i ddim amser na diddordeb mewn ateb 12 pwynt mewn negeseuon ar wahan.
    Ie falle bod y meddalwedd yn well ar gyfer trin dogfennau, gan ei fod yn hollti trafodaeth

  3. Gareth Jones yn dweud:

    Falch o weld bod fy ymdrech i annog bobl i gael Twitter yn y Gymraeg er mwyn hybu ac ehangu gorwelion y iaith yn cael ei drin fel sbam.

    Dwi’n cytuno am Skdadl gyda llaw. Sa’n well cael un erthygl a rhestr o sylwadau ar y diwedd.

  4. [...] i “tweets” – wel, paragraffau ar wahan. Yn hytrach na chynnyrch go iawn. (Ateb i gwestiwn Dafydd, “ydi e ar gyfer pobl thic sydd ddim yn gallu ystyried a thrafod erthygl yn ei gyfanrwydd [...]

Dy adborth